Synopsis
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episodes
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 14eg.
14/11/2023 Duration: 17minClip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi’n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo’r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw:Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh peopleClip 2 – Rhaglen John ac Alun.Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio’n ddiddorol yn tydy?Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi’n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o’r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998:Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd y 7fed 2023.
07/11/2023 Duration: 17minClip 1 Rhaglen Trystan ac Emma:Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae’n dweud bod ganddo’r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o’n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion:Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl DetailedClip 6: Rhaglen Dros Ginio:Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn’, yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Yme
-
Podlediad Pigion Dysgwyr Hydref 31ain 2023
31/10/2023 Duration: 15minBob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae’r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi:Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i’n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu’r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care ofTara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars!Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda’i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy’n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf:Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel IncredibleWel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 24ain 2023
24/10/2023 Duration: 13minSiw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy’n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o’r byd:Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i’r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i BeyondRogue JonesDoes ots ble fyddwch chi, dych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg, on’d dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o’r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs:Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To meltJenny AdamsA llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu’r wobr. Roedd hi’n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023
17/10/2023 Duration: 11minPigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw’r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes.Newydd gyhoeddi Just publishedCyfnodau Periods of timeDdaru WnaethPoblogaidd PopularOddeutu TuaMwydro To bewilderNewydd sbon Brand newOffer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna’n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o’r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres SeriesAchau LineageMamgu a tad-cu Nain a taidAmbell i deulu Some familiesChwant Desire Tyrchu’n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 10fed 2023
10/10/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e’n chwarae’r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn InstrumentCadeirlan CathedralTŷ Ddewi St David‘sPrif organydd Chief organistDirgrynu VibratingDatsain EchoPigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i’n siwr bod dyfodol disglair i’r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e’n gweithio i’r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i’r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo’r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e’n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe’n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a’i Phobol... Disglair BrightMelin Mill
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023
03/10/2023 Duration: 12minPigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg ProminentCyhoeddi AnnounceYmennydd BrainYn gyfangwbl CompletelyTinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae’n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on’d yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a’r canwr Johnny Tudor, ac roedd e’n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i’w holi. Dyma fe gydag un stori fach o’i yrfa... Diddanwr EntertainerDynwared To impersonateLlwyfan StagePigion Dysgwy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 26ain 2023
27/09/2023 Duration: 12minPigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactlyRhagbrofion Preliminary competitionLlefaru RecitingBraint o feirniadu The honour of adjudicatingDeng mlynedd ar hugain 30 yearsCyngerdd mawreddog A grand concertCroesawgar WelcomingTwymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna’n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd ca
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023
19/09/2023 Duration: 17minPigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To releaseDarpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiencesGwerthfawr ValuableCyflwyno To presentTeimlo’n gartrefol Feeling at homeI ryw raddau To some extentYn gwmws Yn union Rhinwedd MeritMewnwelediad InsightTrawstoriad eang A wide cross-section Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha….
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 12fed 2023
12/09/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau StatisticsCalon HeartYmchwil ResearchPerthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r Byd newydd ddechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw’r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae’r rhaglen gyfan i’w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waithNifer cynyddol Increasing numberFel petai So to saySylweddoli To realiseCuriad i’r pen Knock to the headY Gweilch The Ospreys Pigion Dysgwyr – Anghar
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 5ed 2023
05/09/2023 Duration: 16minCERYS MATTHEWS YN HOLI…Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi...Alawon TunesYstyried To considerOfferynnau InstrumentsTrefniadau ArrangementsCofnodi To record (in writing)Barddoniaeth PoetryDdim llawer o bwys Dim llawer o otsHen dad-cu Great grandfatherErw AcreTrosglwyddo To transmitBORE SUL…ie mae Dafydd Iwan yma o hyd – pen-blwydd hapus iawn Dafydd! Iwan Griffiths gafodd gwmni’r cyflwynydd a’r canwr clasurol Wynne Evans. Mae Wynne yn gallu dweud nawr ei fod yn gogydd enwog yn ogystal â chanwr gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y rhaglen deledu “Celebrity MasterChef” sy’n cael ei gyflwyno gan Gregg Wallace a John Torode…Cyflwynydd PresenterY rowndiau cyn derfynol The semi finalsAlla i ddychmygu I can imagineAr waetha hynny In spite of thatBeirniaid JudgesIeuenctid YouthYr her anodda The most difficult challengeYn glou
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 29ain 2023
29/08/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn...Storïwraig Storyteller (female)Cerddor MusicianTmod Ti’n gwybodCyfansoddwraig Composer (female)Ceinciau BranchesBodoli To existEnaid SoulPigion Dysgwyr – Eiry PalfreyStacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy’n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau’r Ddawns yw enw’r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi’r llyfrBrwd EnthusiasticDogfen DocumentCyfrifol ResponsibleDow dow Very
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023
22/08/2023 Duration: 14minPigion Dysgwyr – HiraethogMae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch CampaignDenu To attractYwen YewCynaliadwy SustainableMurluniau MuralsCerflun StatueTaflunydd ProjectorPererinion PilgrimsTreffynnon HolywellPigion Dysgwyr – BrechuDisgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi …Amlygrwydd ProminanceEnwebu To nominateSefydlu To establishBrechu To vaccinatePell
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023
15/08/2023 Duration: 13minS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r SteddfodBuodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu……Darlledu To broadcastCynnau tan To light a fireCynnal To maintainBlodeuo To flowerEisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod personHawlio To claimDeuawd DuetCraith A scarLlwyfan StageNoddi To sponsorPigion Dysgwyr – Martin Croydon…ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o’r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n byw ym Mhen Llŷn.Gwobr PrizeEnwebu To nominateRowndiau terfynol Final roundsGwrthod To refuseCyfweliad InterviewBei
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023
08/08/2023 Duration: 13minPigion Dysgwyr – Lloyd LewisGwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol...Yn ddiweddar RecentlyAml-hil Mixed-raceAmrywiaeth VarietyYstyried To considerPigion Dysgwyr - Nofio yn y SeineY rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…...Gwahardd To ban Deugain mlynedd 40 yearsCydnabyddiaeth AcknowledgementBrwnt BudrYn raddol GraduallyMynd i’r afael To get to grips Breuddwyd gwrach Pipe dream Pigion Dysgwyr – John Eifion JonesAc ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine we
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023
01/08/2023 Duration: 18minSHELLEY & RHYDIANYr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed…Y Fedal Ryddiaith The prose medalWedi gwirioni Over the moonBraint PrivilegeEnwebu To nominateRhestr fer Short listCoelio CreduTrosi To translateYn reddfol InstinctivelyAddasu To adaptLlenyddiaeth LiteratureHunaniaeth IdentityCLONCManon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc...Sy berchen Who ownsYn sgil As a result ofDisgyrchiant GravityWedi cythruddo Has angeredAta
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 25ain 2023
25/07/2023 Duration: 11minPigion Dysgwyr – Deborah MorganteMae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid…..Gwres tanbaid Intense heatMôr y Canoldir Mediterranean SeaRhufain RomeMewn gwirionedd In realityRhybuddio To warnOriau mân y bore The early hoursMas AllanDioddef To sufferPigion Dysgwyr – Aled HughesMi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith……Ynys Manaw Isle of ManParhau To
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023
18/07/2023 Duration: 12minPigion Dysgwyr – Bore SulMae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ………Cogydd ChefAr fin About toDylanwadu To influence Cynhwysion IngredientsGwair GrassGwymon Seaweed Crancod CrabsCynnyrch Produce Pigion Dysgwyr – Trystan ac EmmaA phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r senglCynhyrchu To produceDdaru o gymryd CymeroddCerddorion MusiciansCynnwys IncludingUnigol IndividualTrefnu To arrangeProfiad ExperienceCyfansoddi To composeBraint A privilegePigion Dysgwyr – Dei TomosWel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd Llwyfan y Steddfod Yn ddiweddar darlledwyd rh
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023
11/07/2023 Duration: 12minPigion Dysgwyr – Cerys HafanaCerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc.Cerddor MusicianTelyn HarpYmhlith AmongstOfferyn InstrumentCerddoriaeth (g)werin Folk musicMae’n ddilys It’s validMynegi eich hunain To express yourselvesLlawysgrifau ManuscriptsPlant yn eu harddegau TeenagersYsbrydoliaeth InspirationPigion Dysgwyr – CernywegY cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod we
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Orffennaf 2023
04/07/2023 Duration: 11minPigion Dysgwyr – Carie RimesPerchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol.Perchennog llaethdy Dairy ownerGwobr AwardYn olynol In successionLlefrith dafad Sheep’s milkUnigryw UniqueTueddu i Tends toLlwyddiant SuccessPigion Dysgwyr – GlastonburyA llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar…….Gwlad yr Haf SomersetDarnau PiecesDigon rhwydd Easy enoughRo’n i’n synnu braidd I was rather surprisedAmau To suspectDenu To attractFel mae’r sôn ApparentlyEi bai hi oedd o It was her faultPigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes Ddi