Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 10fed 2023

Informações:

Synopsis

Pigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e’n chwarae’r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn InstrumentCadeirlan CathedralTŷ Ddewi St David‘sPrif organydd Chief organistDirgrynu VibratingDatsain EchoPigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i’n siwr bod dyfodol disglair i’r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e’n gweithio i’r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i’r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo’r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e’n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe’n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a’i Phobol... Disglair BrightMelin Mill