Pigion: Highlights For Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023
- Author: Vários
- Narrator: Vários
- Publisher: Podcast
- Duration: 0:12:19
- More information
Informações:
Synopsis
Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg ProminentCyhoeddi AnnounceYmennydd BrainYn gyfangwbl CompletelyTinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae’n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on’d yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a’r canwr Johnny Tudor, ac roedd e’n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i’w holi. Dyma fe gydag un stori fach o’i yrfa... Diddanwr EntertainerDynwared To impersonateLlwyfan StagePigion Dysgwy