Informações:
Synopsis
Criw Pethe yn trafod y celfyddydau
Episodes
-
Pethe 09 - Lleisiau Ysbyty Dinbych
21/06/2013 Duration: 15minLisa Gwilym sy’n holi Gwion Hallam am raglen arbennig o Pethe y mae’n ei chyfarwyddo – ‘Lleisiau Ysbyty Dinbych’. Sut y mae Manon Steffan Ros, Aled Jones Williams a’r comediwr Eilir Jones am roi llais i gleifion a choridorau gwag yr hen ysbyty meddwl?
-
Pethe 08 - La Biennale di Venezia
07/06/2013 Duration: 15minYn y podlediad yma, mae Gwion Hallam yn holi Lisa Gwilym a'r cyfarwyddwr Heledd Lewis am eu profiadau wrth ymweld ag arddangosfa Bedwyr Williams yn yr Eidal ar gyfer 'La Biennale di Venezia'.
-
Pethe 07 - Llyfr y Flwyddyn
15/05/2013 Duration: 13minAr ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y dewis o naw llyfr. Ym mhodlediad Pethe yr wythnos yma cawn ymateb perchennog y siop Eirian James i ddewis y beirniaid eleni, yn ogystal ag ymateb cynhyrchydd rhaglen arbennig ar y wobr eleni, Emyr Gruffudd.
-
Pethe 06 - Gruff a Georgia
02/05/2013 Duration: 22minIestyn Lloyd ac Osian Howells sydd yn ymuno gyda Gwion Hallam yr wythnos hon i adolygu dau albwm newydd sef 'Praxis Makes Perfect' gan Neon Neon a 'week of Pines' gan Georgia Ruth.
-
Pethe 05 - Wil Aaron
12/04/2013 Duration: 13minGwion Hallam yn holi'r cyfarwyddwr ffilm Wil Aaron am y frwydr a'r her o wneud ffilmiau yn y Gymraeg. Fel un o arloeswyr y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg fe gyfarwyddodd Wil Aaron y ffilm arswyd gyntaf yn yr iaith - O'r Ddaear Hen, 1981. Dyma ei atgofion o gyfnod cyffrous a chythryblus y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
-
Pethe 04 - David Bowie
08/04/2013 Duration: 10minYn y bennod hon, Lisa Gwilym sydd yn trafod gwaith David Bowie gyda'r gitarydd bas Rheinallt ap Gwynedd.
-
Pethe 03 - Cerebellium
15/03/2013 Duration: 15minYn y bodlediad yma, mae Lisa Gwilym yn sgwrsio gyda thair o griw Cwmni Da, sef Manon Wyn, Rhian Haf a Nerys Lewis. Aeth y pedair wythnos diwethaf i weld 'Cerebellium' ym Mhrifysgol Bangor a chewch glywed am eu profiadau unigryw.
-
Pethe 02 - Angharad Tomos
11/03/2013 Duration: 13minYn ail bennod podlediad Pethe, mae Gwion Hallam yn cwrdd â'r awdur Angharad Tomos i drafod ei drama newydd, sef Dyled Eileen.
-
Pethe 01 - Croeso i Lisa
15/02/2013 Duration: 09minLisa Gwilym, Gwion Hallam a Manon Wyn yn edrych ymlaen at gyfres newydd o Pethe ar S4C ac yn trafod y digwyddiadau celfydyddol sydd ar y gweill yn y misoedd nesaf.